Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi marwolaeth pump oen bach ym Mhwllheli.

Maen  nhw’n credu fod yna gysylltiad rhwng y marwolaethau a chyfres o droseddau gwrth-gymdeithasol yn yr ardal yn ddiweddar.

“Dros y chwech wythnos ddiwetha’, mae Tim Plismona Cymunedol Pwllheli wedi derbyn adroddiadau am achosion o daflu sbwriel, yfed dan-oed ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn Allt Barcty,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Rydan ni’n credu bod cysylltiad rhwng marwolaeth yr anifeiliaid a’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar.”

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth, i ffonio Gorsaf Heddlu Pwllheli ar y rhif 101.