Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar, bellach wedi cael ei ryddhau gan yr heddlu, ar ôl cael ei arestio’n gynharach heddiw am baentio sloganau ar adeilad Llywodraeth Cymru.

Cafodd ei arestio ar ôl chwistrellu’r geiriau ‘Gweithredwch’ a ‘6 Pheth’ ar wal yr adeilad yng Nghaerdydd, fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith.

Mae’r mudiad wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i achub yr iaith Gymraeg yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad diwethaf. Ar ôl cael rhybudd swyddogol am ddifrod troseddol gan yr heddlu cafodd Robin Farrar ei ryddhau toc wedi 1.30yp heddiw.

Ond fe gadarnhaodd Farrar wrth golwg360 y byddai’r “ymgyrch weithredol yn parhau” er mwyn ceisio rhoi pwysau ar Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’i Lywodraeth i gymryd camau pellach i warchod yr iaith.