Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod pedwaredd bennod ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.
Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…
Parti arall ac angladd – dyna sut maen nhw’n croesawu’r Flwyddyn Newydd ar ystâd Crud yr Awel. Pwy fyddai ddim eisiau byw yno?
Y newyddion da ydi bod rhywbeth wedi digwydd yr wythnos hon. Y newydd drwg ydi, chawn ni byth weld Gruff yn bygwth rhywun hefo offer garddio eto.
Rhaid cyfaddef bod marwolaeth sydyn Gruff wedi cael ei wneud yn wych ac roedd fy sylw i, am y tro cyntaf, wedi ei hoelio’n llwyr ar y rhaglen. Ond beth a ddysgwyd am weddill y cymeriadau?
Jan
Mae cymeriad Jan yn dechrau ymddangos yn fwy cymhleth rŵan nag oedd hi i ddechrau. Mae hi’n mynd ati i gyffroi’r dyfroedd, er nad oes gennym ni syniad pam, a dyw hi ddim yn ymddangos mor ddiniwed. Mae rhywbeth mwy sinistr a chraff amdani erbyn hyn.
Un peth sydd wedi’ nharo i am Jan yw pa mor cŵl yw hi. Petawn i’n cyrraedd adref a sylwi bod dŵr yn disgyn drwy do’r gegin, mi fyswn i mewn panics llwyr. Ond eto, dydw i ddim wedi symud i stad o dai o dan enw ffug am reswm anhysbys chwaith.
Roedd ei sgwrs hi gyda Cerian Jenkins yn ddifyr ond ’sgwn i os wnaeth y ferch gafodd Richard berthynas gyda hi ladd ei hun ynteu taflu rhagor o lwch i’n llygaid ni oedd hynny? Efallai bod Jan wedi cael gair gyda Cerian oherwydd bod Richard wedi ei hanwybyddu? Pwy a ŵyr?
Ond os nad yw Jan yn buddsoddi mewn cloeon newydd, larwm a chamerâu diogelwch yn fuan, dwi’n poeni y bydd rhywun yn torri mewn i’r tŷ ‘na ac yn ei… o, hold on.
Y Teulu Jenkins
Perfformiad Ryland Teifi fel Richard Jenkins wnaeth yr argraff fwyaf ym mhennod pedwar. Roedd gweld Richard yn mynd i emosiwn wrth iddo ragweld ei fywyd ei hun yn dilyn tranc Gruff, nes bod dim dewis ar ôl ond hunanladdiad, yn wych iawn.
Mae’r ffaith bod Richard wedi dweud wrth ei wraig ei bod hi’n gwybod, yn well na neb, fod gan bawb eu cyfrinachau, hefyd yn ddifyr. Beth yw ei chyfrinach hi? Yw Richard yn cael trafferth byw yn ei groen ei hun ar ôl i’r ferch y cafodd o berthynas gyda hi ladd ei hun?
Ond y dirgelwch mwyaf yn y gyfres hyd yma yw beth sydd wedi digwydd i fab Richard a Sali Jenkins.
Y tro diwethaf i ni ei weld o oedd yn yr ail bennod pan oedd o’n cael parti pen-blwydd. Does dim siw na miw wedi bod ohono ers hynny. A’i fo sy’n cuddio yn nhŷ Jan yn ysbio arni a rhoi cadachau yn y plygiau? Dyna’r unig ddamcaniaeth sydd gen i hyd yma beth bynnag.
Y Morisiaid
Ffarwel felly, Gruff. Dwi byth am wneud y camgymeriad o ddatgelu pa gymeriad yw’n ffefryn i ar y blog ‘ma eto. Bydd y person hwnnw yn siŵr o farw yn y bennod nesaf.
Mae natur fusneslyd Beti hefyd yn troi yn rhywbeth mwy bygythiol ac arswydus wrth i ni ei gweld hi’n siarad gyda chynbartner ei mab, Ben, am y tro cyntaf. Mae rhywbeth milain iawn am Beti ac roedd Gruff yn llygad ei le gan ddweud nad yw hi’n poeni am neb na dim ond ei ffug barchusrwydd ei hun.
Nodyn i awduron y gyfres: Beti yw fy hoff gymeriad i.
O leia mae Ben wedi dychwelyd o’r ysbyty yn edrych ychydig yn well. Y broblem hefo hynny, wrth gwrs, ydi mod i eisiau ei weld o’n gorchuddio’r tŷ gydag adar origami. Dyw bywyd, weithiau, ddim yn deg o gwbl.
Huw a Caroline James
Os oes un thema sy’n rhedeg trwy’r holl gyfres, dirywiad meddyliol y cymeriadau yw hynny. Mae o wedi digwydd i Ben, Gruff, Richard a rŵan i Huw a Caroline hefyd.
O ran Caroline, mae hi’n delio a’r pwysau yn yr unig ffordd mae hi’n ei wybod – drwy sgrechian ar bawb a thaflu diod dros Jan. Steilus iawn ohoni, ond y gwir amdani yw nad oes ganddi ddigon i fyny’r grisiau i wneud dim arall.
Mae meddwl Huw, ar y llaw arall, mwn lle tywyll iawn. Mae o’n ofni colli ei swydd neu hyd yn oed yn waeth, cael ei ddal am werthu cyffuriau yn y carchar. Cawn weld beth fydd yn digwydd iddo ond tydi pethau ddim yn argoeli’n dda.
Tony, Pat a Linda
Pan ddywedodd Tony’r wythnos diwethaf fod ganddo 1,892 o fylbiau’n rhan o’i addurniadau Nadolig, roeddwn i’n siomedig ofnadwy mod i heb gael gweld y tŷ yn ei holl ogoniant.
Y siom ym mhennod 4 oedd gweld mai fairy lights yw’r goleuadau. Pwy sy’n cyfri’r bylbiau bach fairylights mewn difri calon? Rêl Tony – all rhywun ddim ymddiried mewn gair mae o’n ei ddweud.
Rydyn ni’n dechrau deall faint yn union o fochyn siofinaidd yw Tony hefyd. Mae o wedi gwneud i’w wraig newydd roi’r gorau i’w gwaith fel ei bod hi’n aros adref, mae ganddo ei lygaid ar bob merch ar y stad, ac mae o’n honni bod ganddo oleuadau Nadolig gyda 1,892 o fylbiau.
Iawn, dyw’r rheswm olaf yna’n ddim i’w wneud a’i gasineb tuag at ferched, ond yn werth nodi am yr ail waith achos, rhag ofn nad oeddech chi wedi sylwi, dwi’n eitha’ blin am y peth.
Diolch byth felly am Pat. Ffrind mynwesol i Linda a’r un sy’n mynd i’w hachub hi rhag crafangau Tony ddrwg. Dwi’m yn coelio hynny am eiliad cofiwch chi – dyw pethau byth mor syml â hynny, ydyn nhw?
Moment yr wythnos
Gyda phennod gystal, mae gen i ddau foment yr wythnos sy’n haeddu sylw’r wythnos hon.
- Da ni gyd wedi cael yr hunllef. Mynd i barti oedden ni’n meddwl oedd yn un wisg ffansi ond does neb arall wedi gwneud yr ymdrech. Chwarae teg i Pat felly am wisgo fel geisha i’r parti flwyddyn newydd – roedd rhaid i rywun.
- Pa mor flin ydach chi’n meddwl oedd Tony pan wnaeth o sylweddoli bod mwy o fywyd yn angladd Gruff nag yn ei barti flwyddyn newydd o? Blin iawn fyswn i’n tybio.