Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant wedi cyhoeddi fod Llywodraeth Cymru am roi’r pŵer i gynghorau godi treth cyngor uwch ar berchnogion ail dai.

Dywedodd Carl Sargeant ei fod wedi ystyried pam mor “anodd [yw hi] i lawer o unigolion a theuluoedd gael eu cartref eu hunain” wrth wneud y penderfyniad.

“Er bod yr economi leol a thwristiaeth yn gallu elwa ar ail gartrefi, mae’r ffaith nad oes unrhyw un yn byw ynddynt am ran o’r flwyddyn yn siŵr o gael effaith niweidiol ar ddarparwyr gwasanaethau lleol ac yn cyfyngu ar nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael i’r bobl leol,” ychwaengodd.

“Mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o ail gartrefi, hwyrach y bydd Awdurdodau Lleol yn penderfynu bod angen i’r rhai sy’n berchen ar fwy nag un cartref dalu premiwm Treth Gyngor er mwyn gwneud cyfraniad ychwanegol at y gwasanaethau lleol a thai fforddiadwy drwy’r system drethu leol.”

Pwysleisiodd Carl Sargeant nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu hawl pobl fod yn berchen ar fwy nag un cartref, ond y dylid “ystyried anghenion y bobl leol” oedd yn cael trafferth dod o hyd i gartrefi fforddiadwy.

Byddai gan gynghorau lleol yr hawl i addasu cyfradd eu treth cyngor ar ail dai, meddai, gan orfod “esbonio  a chyfiawnhau penderfyniad i’r trigolion lleol”.

‘Angen trethu’n drymach’

Croesawodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y cyhoeddiad, gan ddweud fod y polisi yn un o argymhellion eu Maniffesto Byw a’i bod yn fater y maen nhw wedi ymgyrchu drosti ers y 1970.

“Rydym yn croesawu’r newyddion hyn,” meddai Cen Llwyd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. “Fodd bynnag, hoffwn weld yr hawl i gynghorau codi’r dreth yn uwch eto.

“Mae’n glir iawn bod ail dai yn effeithio’n negyddol ar wahanol agweddau o fywyd cymunedol, megis cynaliadwyedd gwasanaethau lleol a’r Gymraeg.

“Mae’n iawn i roi’r hyblygrwydd i gynghorau sir adlewyrchu’r effaith honno yn eu polisïau treth – rydym yn disgwyl i gynghorau ymateb yn gadarnhaol i’r pŵer newydd hwn.

“Mae’n un o’r dros dri deg o argymhellion polisi yn ein Maniffesto Byw ac yn cael ei gefnogi gan fudiadau megis undeb y GMB hefyd. Yn wir, rydym wedi bod yn ymgyrchu ar hyn ers y saithdegau.”

Fe aeth ymlaen i ddweud fod hyn yn gam cadarnhaol tuag at achub yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd, yn dilyn canlyniad y Cyfrifiad diwethaf.

“Mae mewnfudo ac allfudo yn rhai o’r ffactorau sydd yn effeithio fwyaf ar sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau,” meddai Cen Llwyd.

“Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, fe welwyd cwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

“Mae gadael i gynghorau godi treth uwch ar ail dai yn rhan o’r pecyn o newidiadau i’r system gynllunio ac economaidd sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod pawb yn cael byw yn Gymraeg.”