Mae’r RSPCA yn apelio am wybodaeth wedi i weddillion ci gael eu darganfod ym Mor Morgannwg.
Yn ôl swyddogion o’r elusen anifeiliaid, daethpwyd o hyd i gorff y ci Doberman benywaidd ym mhentref Penmarc ger y Bari ar 25 Mawrth.
Dywedodd yr arolygydd Christine McNeil, ar ran yr RSPCA, fod y ci wedi ei lapio mewn tair blanced.
“Mae’n debygol bod y ci wedi marw o fewn 24 awr cyn i’w chorff gael ei ddarganfod,” meddai Christine McNeil.
“Roedd hi’n ofnadwy o denau a’i hesgyrn yn amlwg, ond nid oedd hi wedi dioddef unrhyw anafiadau gweledol.
“Rydym yn credu y gallai rhywun yn yr ardal ei hadnabod ac yn eu hannog i gysylltu â ni. Rwyf yn hynod o bryderus am beth ddigwyddodd i’r ci yma.”
Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â Christine McNeil ar 0300 123 8018.