Cafodd llawer o bobl eu cythruddo ddoe ar ôl i raglen BBC Radio Wales gynnal trafodaeth ynglŷn â’r iaith Gymraeg, a holodd a oedd yr iaith yn codi gwrychyn pobl.

Cynhaliwyd y drafodaeth ar raglen Morning Call, sy’n cael ei gyflwyno gan Oliver Hides, yn dilyn sylwadau a ymddangosodd ar wefannau cymdeithasol gan weithiwr siop yng Nghaerdydd yn beirniadu cwsmeriaid am siarad Cymraeg.

Mae Ofcom bellach wedi dweud eu bod nhw wedi derbyn 22 o gwynion ynglŷn â rhaglen Radio Wales, gyda’r orsaf yn amddiffyn eu penderfyniad i gynnal y drafodaeth ond yn ymddiheuro am eiriad un o’r trydariadau.

Fe drydarodd Radio Wales cyn y rhaglen yn holi gwrandawyr “Does the Welsh language irritate you? Why?” – ac maen nhw bellach wedi cyfaddef fod y trydariad wedi’i “eirio’n wael”.

Ond a wnaeth y BBC ddangos diffyg parch a dealltwriaeth ynglŷn â’r iaith wrth gynnal trafodaeth o’r fath? A oedd hi’n anghyfrifol iddynt gwestiynu’r Gymraeg yn y fath fodd?

Neu a ddylai pobl fod yn barod i drafod gwerth yr iaith yn gyhoeddus mewn sgyrsiau pellach o’r fath? Mewn cymdeithas ddemocrataidd ac agored onid oes rhyddid pawb â’i farn?