Rona Rees
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o bobol o Gymru sy’n ceisio gwasanaethau yn ymwneud â newid rhyw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y llynedd yn unig fe dderbyniodd 116 o gleifion yng Nghymru driniaeth arbenigol ar gyfer disfforia rhyw drwy’r Gwasanaeth Iechyd, mwy na dwbl y nifer i dderbyn y gwasanaethau hyn dros y pedair blynedd flaenorol gyda’i gilydd.

Mewn cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Y Byd ar Bedwar, sydd i’w darlledu heno, fe ddaeth i’r amlwg fod 172 o bobol wedi derbyn triniaethau arbenigol ar gyfer disfforia rhyw drwy’r Gwasanaeth Iechyd dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Ond yn ôl un o Drefach ger Llanelli sy’n paratoi i gael llawdriniaeth newid rhyw, ac sydd wedi gorfod mynd i Lundain er mwyn cael apwyntiadau a threfnu’r llawdriniaeth, mae angen mwy o ddarpariaeth fan hyn yng Nghymru.

‘Byw celwydd’

“Mae llawer o bobol ifanc yn dod mas y dyddiau hyn,” meddai Rona Rees, sy’n 63 oed. “Er eu mwyn nhw dwi’n dweud bod angen i’r Gwasanaeth Iechyd ddarparu’r driniaeth sydd ei angen arnyn nhw, er mwyn iddyn nhw gael bod yn nhw eu hunain, neu fel arall fe fydd yn rhaid iddyn nhw fyw celwydd, fel y gwnes i.”

Roedd Rona Rees yn 58 oed, newydd golli ei gwaith a cholli ei thad pan benderfynodd fod yn agored am ei bwriad i droi’n ddynes – er ei bod wedi dechrau trawswisgo yn saith oed.

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu y gallai fod cymaint â 30,000 o bobol trawsryw yn byw yng Nghymru, yn amrywio o ddynion sy’n gwisgo fel menywod o bryd i’w gilydd i bobl sy’n dymuno newid eu rhyw yn barhaol.

‘Angen cynyddu’r ddarpariaeth’

Ar hyn o bryd, dim ond dau fwrdd iechyd sy’n cynnig unrhyw fath o driniaeth ar gyfer cyflyrau trawsryw yng Nghymru. Yn ôl Rona Rees, mae angen cynyddu’r ddarpariaeth i’r rheiny sy’n dymuno newid rhyw.

“Y llawdriniaeth yw’r opsiwn rhataf mewn gwirionedd, achos mae’n golygu un taliad penodol, a’r gobaith wedyn yw na fydd gyda chi’r problemau iechyd meddwl fyddai gyda chi fel arall.”

Mae’r problemau iechyd meddwl hyn yn cael eu hategu gan yr ‘All Wales Hate Crime Project’, sy’n dangos fod bron i hanner y rheiny sydd wedi dioddef oherwydd casineb trawsffobig wedi ystyried hunanladdiad.

Hunanladdiad

Yn ôl Jenny-Anne Bishop o’r prosiect, mae’n cymryd blynyddoedd i bobol yng Nghymru gael gafael ar wasanaethau newid rhyw – amser aros sy’n gallu bod yn niweidiol iawn.

“Fe fyddai llwybr triniaeth fwy effeithlon ddim yn rhoi pobol mewn sefyllfa mor ofidus, ac felly fe fydden nhw’n llawer llai tebygol o gyflawni hunanladdiad neu hunan-niweidio,” meddai.

“Ry’n ni’n gwybod fod cyfradd hunanladdiad pobol sy’n cael eu rhoi ar y llwybr cywir er mwyn derbyn triniaeth yn is.”

Bydd ‘Y Byd ar Bedwar – Tro ar Fyd’ yn cael ei darlledu heno (Nos Fawrth) am 9.30yh ar S4C.