Llifogydd Gwlad yr Haf
Mae tri llwyth o fwydydd anifeiliaid o orllewin Cymru wedi cyrraedd Gwlad yr Haf heddiw er mwyn helpu ffermwyr sydd wedi dioddef o achos y llifogydd yno.

Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngheredigion a gogledd Sir Benfro sydd wedi trefnu’r cyfraniad 90 tunnell, a gyrhaeddodd marchnad Sedgemoor yng Ngwlad yr Haf y bore ‘ma.

“Cafodd ffermwyr Cymru help gan ffermwyr Lloegr y llynedd adeg yr eira felly mae’n gyfle i ni wneud ein rhan,” meddai Aled Rees, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngheredigion ac wyneb adnabyddus ar gyfres Fferm Ffactor ar S4C.

“Gofynnon ni am gyfraniadau gan ein haelodau ni ac aethon nhw â bêls mawr i dair canolfan. Mae’r llwyth wedi dod lawr yma heddiw ar dair lori, gan wirfoddolwyr.

“Ry’n ni nawr yn gofyn am gyfraniadau tuag at y tanwydd achos mae 90 tunnell arall yn barod i ddod lawr yma eto o orllewin Cymru,” meddai.

Cefnogaeth

Dywedodd Aled Rees fod solidariaeth yn bwysig yn y diwydiant amaeth.

“Ry’n ni damaid gwell o ddisgwyl i’r Llywodraeth ein helpu,” meddai, o farchnad Sedgemoor.

“Dywedodd dyn wrtha i bore ma fod 64 milltir sgwâr wedi cael ei foddi yn yr ardal yma fis diwethaf a bod 30 milltir sgwâr yn dal dan ddŵr.

“Mae ’na rai tai fferm sydd wedi bod dan ddŵr cyhyd fel y bydd rhaid eu bwrw nhw lawr.”

Mae disgwyl i’r llwyth nesaf o fwydydd fynd o orllewin Cymru i Sedgemoor ymhen wythnos.