Trenau Arriva Cymru
Ni fydd streic gyrwyr Trenau Arriva Cymru fyddai wedi ei chynnal yr un dydd a gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn mynd yn ei flaen.
Roedd aelodau undeb Aslef wedi bwriadu streicio am 24 awr ddydd Sadwrn, gan fygwth oedi mawr i filoedd o gefnogwyr rygbi oedd am deithio i mewn ac allan o Gaerdydd.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Keith Norman, eu bod nhw wedi cynnal trafodaethau adeiladol gyda phenaethiaid y cwmni trenau.
Mae’r streic wedi ei ganslo ac fe fydd trafodaethau newydd yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf.
Roedd yr undeb wedi targedu gêm Cymru a Lloegr ddechrau’r mis diwethaf ond cafodd y streic honno ei chanslo ar y funud olaf hefyd.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru eu bod nhw wedi cynnig codiad cyflog 12% dros gyfnod o ddwy flynedd, fyddai’n golygu bod gyrwyr yn ennill £39,117 am shift 35 awr, pedwar diwrnod yr wythnos.