Y bargyfreithiwr Gwion Lewis (Llun oddi ar wefan Twitter S4C)
Mae angen mwy o gyrff i weithio yn y Gymraeg os yw’r iaith am ffynnu ar lefel gymunedol.

Dyna fydd dadl y bargyfreithiwr Gwion Lewis wrth iddo annerch cynhadledd o grwpiau cymunedol yn Llangefni ar Ddydd Gwyl Dewi i drafod dyfodol yr iaith.

Bydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg, sy’n grŵp o gymunedau a sefydliadau Cymraeg eu hiaith, yn annog ei haelodau i fabwysiadu polisïau uniaith Gymraeg yn y cyfarfod.

Ymysg y siaradwyr hefyd fe fydd Toni Schiavone a Meirion Llywelyn yn arwain trafodaeth ar effaith y gyfundrefn gynllunio ar gyflwr yr iaith.

Bu Gwion Lewis yn rhan o dîm cyfreithiol Comisiynydd yr Iaith yn ddiweddar ar ôl iddi wneud cais am Adolygiad Barnwrol yn dilyn penderfyniad un o isadrannau’r Trysorlys i beidio â chynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.

Ac fe ddywedodd y bargyfreithiwr ei fod yn edrych ymlaen at gael trafod rhai o’r materion pwysig yn ymwneud â defnydd yr iaith yn bellach.

“Edrychaf ymlaen yn fawr at y cyfle i ddychwelyd i’r ardal y cefais fy magu ynddi i drafod y datblygiadau cyfreithiol diweddaraf yn y maes yma,” meddai Gwion Lewis.

“Gan ein bod yn cyfarfod rhai wythnosau wedi’r dyfarniad yn achos Eos a’r BBC, a rai dyddiau yn unig wedi i mi orffen dadlau achos cyntaf Comisiynydd y Gymraeg yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd, bydd digon i’w drafod.”

Dywedodd Cadeirydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg, Craig ap Iago, fod Mesur y Gymraeg (2011) eisoes wedi sefydlu’r egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

“Rydyn ni’n grediniol y gall Cymru ddefnyddio’r cyd-destun deddfwriaethol newydd er mwyn sicrhau bod grwpiau cymunedol megis cynghorau cymunedol yn camu ymlaen yn hyderus i fabwysiadu polisïau iaith blaengar,” meddai Craig ap Iago.

“Mae nifer o gyrff eisoes yn arwain y ffordd drwy weithio’n fewnol yn Gymraeg, ac mae tystiolaeth bod hynny’n cryfhau defnydd yr iaith ar lawr gwlad. Yr hyn sydd eisiau yw lledaenu’r wybodaeth bod y ddeddfwriaeth newydd yn creu cyfle i ragor o sefydliadau fabwysiadu’r arfer da hynny.”