Mae Heddlu  Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw’n cydweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â llu arall, i ymchwilio i gamymddwyn honedig o fewn Cyngor Sir Gaerfyrddin a Phenfro.

Daw’r ymchwiliad yn dilyn adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â thaliadau i uwch swyddogion yng nghynghorau sir Caerfyrddin a Phenfro gan ddweud fod y taliadau yn “anghyfreithlon”.

Dywedodd yr Archwilydd  bod y ddau gyngor sir wedi torri’r gyfraith tros becyn cyflog a phensiwn i’w prif weithredwyr, Mark James a Bryn Parry Jones, a swyddogion eraill.

Roedd £27,000 wedi ei dalu i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, a mwy na £51,000 i Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, ac un swyddog arall.

Dywedodd yr archwilydd bod Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy roi indemniad i’r prif weithredwr.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a Sir Penfro wedi gwadu bod y taliadau yn anghyfreithlon.

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, heddiw ei fod wedi ysgrifennu at Heddlu Dyfed Powys yn gofyn iddyn nhw ystyried ymchwiliad i gamymddwyn posib o fewn swydd gyhoeddus yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.

Cydweithio

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: “Fe all Heddlu Dyfed Powys gadarnhau eu bod yn cydweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â gwasanaeth allanol mewn cysylltiad ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.”

Cyngor llawn yn trafod adroddiad

Fe gyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin prynhawn ma y bydd y cyngor llawn yn trafod darganfyddiadau’r adroddiad gan y Swyddfa Archwilio ar 27 Chwefror.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge, y byddai’n “ryddhad” i allu trafod y wybodaeth i gyd gyda’r cynghorwyr sir a’r cyhoedd.  Nid oedd y cyngor wedi gallu trafod y mater tra bod ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei gynnal, meddai.

Dywedodd ei fod yn deall bod y materion wedi achosi pryder i’r cyhoedd ond mae wedi rhoi addewid y bydd y drafodaeth yn “agored ac onest”.

“Rwy’n gobeithio na fydd pobl yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r materion hyn cyn eu bod nhw wedi clywed y ffeithiau i gyd,” meddai.