Rosemary Butler
Mae’r Cynulliad wedi lansio cynllun i annog mwy o ferched i wneud cais am swyddi gyda chyrff cyhoeddus, a rolau eraill mewn bywyd cyhoeddus.

Bydd y cynllun yn cynnig cyfleon mentora a gwybodaeth am sut i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, y swyddi gwag diweddaraf a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael.

Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, oedd yn lansio’r cynllun ac mae’n cael ei redeg mewn partneriaeth a’r elusen cyfle cyfartal Chwarae Teg ac Ysgol Fusnes Caerdydd.

Manteision i gymdeithas yng Nghymru’

Dywedodd  Rosemary Butler fod yna gannoedd o ferched ledled Cymru a fyddai’n “wych fel llywodraethwyr ysgol, ynadon, neu aelodau gwerthfawr o gyrff cyhoeddus eraill”.

“Mae llawer ohonyn nhw’n edrych ar y cyrff cyhoeddus hyn ac yn diystyru gwneud cais pan fyddan nhw’n gweld mai dynion sy’n eu rheoli,” meddai’r AC.

“Rwyf am weld dynion a menywod sydd eisoes yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yn dod yn fentoriaid ac yn helpu i gyflwyno’r rhaglen arloesol hon.”

Ychwanegodd Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg: “Rydym yn awyddus i gefnogi uchelgeisiau’r menywod y gwyddom sydd gyda sgiliau a gwybodaeth wych y gellid eu defnyddio’n effeithiol mewn bywyd cyhoeddus.

“Bydd hyn yn rhoi boddhad personol i’r menywod sy’n cymryd rhan a bydd yn cynnig manteision sylweddol i gymdeithas yng Nghymru wrth i ni weld cyrff sy’n gwneud penderfyniadau yn elwa o ystod o brofiadau a safbwyntiau sy’n ehangach ac yn fwy cynrychioliadol.”