Y Parchedig Gerwyn Capon (Llun: Yr Eglwys yng Nghymru)
Cyn ddatblygwr tai a chaplan presennol Archesgob Cymru fydd Deon newydd Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Bydd Gerwyn Capon, sy’n 48 oed ac yn hannu o Fôn, yn cael ei sefydlu ar 28 Chwefror.

Ar ôl gyrfa ym myd busnes, aeth i weithio i Eglwys Lloegr yn Lerpwl a bu’n gurad yno am gyfnod cyn mynd yn ddeiliad i eglwys yn Neoniaeth Blackburn.

Ar hyn o bryd mae’n gaplan i Archesgob Cymru Dr Barry Morgan sydd wedi croesawu’r apwyntiad.

“Mae gennyf bob ffydd y bydd Gerwyn yn ddeon ac offeiriad plwyf rhagorol. Mae wedi bod o gymorth mawr i mi a gwn bod ganddo’r doethineb, nerth a’r ymroddiad i gyflawni yr hyn fydd yn swydd fydd yn gofyn llawer ganddo.”

Dywedodd gerwyn Capon ei fod yn edrych ymlaen yn arw at gychwyn ar ei waith.

“Mae bod yn Ddeon Llandaf yn gyfle gwych i unrhyw offeiriad: rwy’n ystyried y ffaith bod yr Archesgob yn ymddiried ynof i gyflawni’r swydd yma yn fraint fawr gan fy môd yn sylweddoli yr holl gyfrifoldeb sy’n dod yn ei sgîl.”