Llys y Goron Abertawe
Mi fydd Llys y Goron Abertawe yn clywed tystiolaeth heddiw gan dystion yn achos merch a gafodd ei thrywanu 40 o weithiau yn ei chartref yn Sir Benfro.

Bu farw Joanna Elizabeth Hall, 35, yn Ysbyty Treforys ym mis Ebrill y llynedd, dair wythnos ar ôl yr ymosodiad ar 15 Mawrth.

Yn ôl yr erlyniad roedd Steven Daniel Williams, 30, wedi ymosod ar Joanna Hall mewn tŷ ar Ffordd Cresswell yn Ninbych y Pysgod.

Dywedodd yr erlynydd, Elwen Evans QC fod gan Joanna Hall anafiadau dros ei chorff, y rhan fwyaf i’w brest.

Mae  Steven  Williams yn gwadu ei llofruddio.