Difrod y storm ar brom Aberystwyth heddiw
Fe fu’n rhaid i ddyn 21 oed gael ei achub gan y Bad Achub, ar ol anwybyddu rhybuddion yr heddlu a mynd i dynnu lluniau’r tonnau gwyllt ar draeth Aberystwyth.

Fe ddefnyddiodd y criwiau achub eu dingi er mwyn mynd yn agosach at y myfyriwr, cyn gallu rhoi siaced achub amdano a’i gludo i’r lan.

Roedd y tywydd garw yn golygu fod tonnau anferth yn llyncu’r pier ac wedi amgylchynu’r dyn. Fe gafodd ei ddal yn gaeth wrth y fynedfa i harbwr y dre’.

Yn ol datganiad gan y Bad Achub, roedd y gwr wedi anwybyddu sawl rhybudd i gadw draw o’r arfordir. Roedd wedi cerdded i ben draw’r jeti pren, gan dynnu lluniau o’r tonnau anferth.