Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd rhew mewn ardaloedd o Gymru bore fory, wrth i’r awyr glirio yn dilyn stormydd y dyddiau diwetha’.
Mae chwech o siroedd Cymru yn debygol o weld y tymheredd yn cwympo dan y rhewbwynt dros nos – Conwy, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam a Phowys.
Mae peryg hefyd y gallai graean sydd wedi ei wasgaru ar y ffyrdd gael ei olchi ymaith gan law trwm dros nos.
Ac ar wahan i’r peryglon amlwg ar y ffyrdd, gallai rhew amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd, meddai’r Swyddfa Dywydd.