Mae Cyngor Powys wedi dweud y byddan nhw’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod toriadau i swyddi a gwasanaethau.

Bydd chwe sesiwn yn cael eu cynnal i drafod y posibilrwydd o golli 300 o swyddi wrth i’r cyngor geisio arbed £40 miliwn pob blwyddyn am y dair blynedd nesaf.

Caiff y cyfarfodydd eu cynnal rhwng 13 ac 16 Ionawr.