Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi galw unwaith eto am bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ddydd Iau ar ragor o ddatganoli yn y Cynulliad.
Dywedodd fod angen i Gymru gael “fwy o ddweud” yn ei datblygiad economaidd a “rhagor o ryddid” i wneud penderfyniadau.
Ychwanegodd ei fod wedi penderfynu ategu ei alwad am bleidlais ‘Ie’ ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan ddweud fod y dathliad cenedlaethol yn gyfle i Gymru obeithio am ddyfodol gwell.
“Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, rydyn ni’n dathlu treftadaeth gyfoethog Cymru, ei hanes balch, a chyfraniad pobol o Gymru yn fyd-eang,” meddai.
“Heddiw mae dyfodol pobol Cymru yn bwysicach byth oherwydd y refferendwm sy’n cael ei gynnal ddydd Iau.
“Fe fydd pobol Cymru yn penderfynu a ydyn nhw eisiau llais cryfach yn y Deyrnas Unedig.
“Rydw i’n annog pleidlais ‘Ie’ fel bod gan y Cymry ragor o ddweud yn eu datblygiad economaidd; rhagor o ryddid dros benderfyniadau tai; a rhagor o reolaeth dros eu diwylliant sy’n ffynnu ac yn annog pobol o bob cwr o’r byd i ymweld â Chymru.
“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i obeithio am ddyfodol gwell.”
Mae disgwyl i ganlyniadau’r refferendwm gael eu cyhoeddi ddydd Gwener.