Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwadu adroddiadau y bydd  gwasanaethau mamolaeth o dan ofal meddygon yn dod i ben yn Ysbyty  Llwynhelyg  yn Hwlffordd fis Mawrth nesaf.

Mae’r Obstetrydd Ymgynghorol Dr Chris Overton yn honni bod staff wedi cael gwybod y bydd gwasanaethau mamolaeth ymgynghorol yn cael eu symud i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Y gred yw y bydd  y gwasanaeth mamolaeth dan ofal bydwragedd yn parhau yn Ysbyty Llwynhelyg ond  bydd pob achos pediatrig difrifol yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Glangwili.

Ond yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda ni fyddan nhw’n gallu gwneud unrhyw benderfyniad nes y bydd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn penderfynu beth fydd dyfodol y gwasanaeth yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Dr Chris Overton, sy’n gadeirydd yr ymgyrch Save Withybush Action Team (SWAT), wrth Golwg 360: “Rwy’i ar ddeall fod y rheolwr bydwreigiaeth lleol wedi dweud wrth staff  mai bydwragedd fyddai’n gyfrifol am y gwasanaeth o fis Mawrth.

“Hefyd dywedodd y rheolwr pediatreg wrth staff y byddai’r uned babanod ac unrhyw dderbyniadau yn cael eu trosglwyddo i Gaerfyrddin o fis Mawrth.”

Ym mis Medi gofynnodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru am fwy o fanylion ynghylch cynlluniau’r bwrdd iechyd i drosglwyddo’r uned gofal dwys i fabanod o Hwlffordd i Gaerfyrddin.

Gofynnodd i’r bwrdd gwblhau’r gwaith erbyn diwedd y flwyddyn.

Disgwylir i’r Gweinidog Iechyd benderfynu ar ddyfodol gwasanaeth mamolaeth Llwynhelyg yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

‘Dim penderfyniad’

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd nad oeddent wedi gwneud unrhyw benderfyniad am fod y bwrdd yn dal i gasglu gwybodaeth cyn ei gyflwyno i’r Gweinidog.

“Gallwn gadarnhau nad ydym wedi rhoi’r un cyfarwyddyd i symud mamau sy’n disgwyl rhoi genedigaeth ym mis Mawrth neu ym mis Ebrill yn Ysbyty Glangwili yn hytrach nag Ysbyty Llwynhelyg.

“Cafodd y bwrdd iechyd gyfarwyddyd gan y Gweinidog Iechyd i egluro’r model ar gyfer gwasanaethau obstetreg a pediatrig a fyddai’n cefnogi uned newydd enedigol lefel 2 cyn i’r Gweinidog wneud penderfyniad terfynol yn ei gylch.

“Mae’r bwrdd iechyd yn trafod y sefyllfa bresennol yn agored gyda staff  ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn ysbytai ac ar lefel sir a lefel bwrdd.”