Dyfed Edwards
Mae Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi cadarnhau mewn datganiad ei fod wedi rhoi’i enw ymlaen i olynu Elfyn Llwyd fel Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd.

Cadarnhaodd Elfyn Llwyd ei fod yn bwriadu rhoi gorau i’w swydd yn San Steffan yn 2015, ac mae’r enwebiadau nawr wedi cau ar gyfer yr ornest i’w olynu.

Heddiw fe gyhoeddodd Dyfed Edwards fod ei enw yntau wedi cael ei daflu i’r het, sydd eisoes yn cynnwys Mandy Williams-Davies, John Gillibrand, Gwynfor Owen, Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts.

Cadarnhaodd Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts eu bwriad i sefyll ychydig wythnosau’n ôl, gyda John Gillibrand a Gwynfor Owen yn cyhoeddi’r newyddion yn swyddogol ar eu cyfrifon Trydar heddiw.

Mae Dyfed Edwards yn llefarydd ym maes Tai a’r Gymraeg yn ogystal â bod yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.

Safodd y cyn-athro Cerdd dros y Blaid yn etholaeth De Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2001, ac fe enillodd wobr Gwleidydd Lleol y Flwyddyn The Wales Yearbook ac ITV Cymru yn 2009.

‘Profiad eang’

Mewn datganiad dywedodd Dyfed Edwards ei fod yn credu bod ei brofiadau eang mewn gwleidyddiaeth leol yn ei roi mewn safle cryf i olynu Elfyn Llwyd.

“Mae cynrychioli’r Blaid ar ba lefel bynnag yn anrhydedd a chyfrifoldeb fel ei gilydd. Gyda fy mhrofiad eang fel cynghorydd, arweinydd, ymgyrchydd a chyn-ymgeisydd Cynulliad a San Steffan i’r Blaid, credaf fod gennyf y cymwysterau i fod yn ddarpar ymgeisydd credadwy i’r Blaid mewn ymgyrch etholiad ac yn gynrychiolydd effeithiol.

“Mae cyfle i barhau gyda’r gwaith ardderchog gyflawnwyd gan Elfyn Llwyd dros y blynyddoedd ac i ymgyrchu mewn sawl maes pwysig er mwyn parhau gyda’r gwaith o adeiladu’r Gymru Newydd. Rwyf wedi gwasanaethu Cymru gydol fy oes, fy ngobaith ydi parhau i wneud hynny fel rhan o Dîm y Blaid yn Nwyfor Meirionnydd.”