Carchar Caerdydd
Fe fydd cyn-garcharorion yn cael llai o flaenoriaeth wrth gael tai gan gynghorau a chymdeithasau tai, os bydd bil newydd gan Lywodraeth Cymru’n cael ei basio.

Fe gadarnhaodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, ei fod am newid y drefn ar ôl ymgynghori gyda phobol a mudiadau sydd â diddordeb yn y maes.

Fe fydd carcharorion yn dal i gael blaenoriaeth, meddai, ond dim ond os ydyn nhw’n cael eu hystyried yn “agored i niwed”.

Fe fyddan nhw wedyn yn cael eu hystyried ar yr un telerau â phobol eraill sy’n agored i niwed.

Bil Tai

Fe fydd y newid i gyfrifoldebau awdurdodau lleol yn cael ei gynnig mewn Bil Tai newydd.

Fe ddywedodd Carl Sargeant fod y pwnc yn un dadleuol ond y dylai gwell gwasanaethau cyffredinol olygu ei bod yn haws i garcharorion gael eu hail-gartrefu beth bynnag.

Ar hyn o bryd, meddai, roedd peryg iddyn nhw gael mantais ar bobol eraill sy’n agored i niwed.