Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae taid a nain merch 5 oed, oedd wedi diflannu gyda’i mam, wedi cael eu rhyddhau gan yr Uchel Lys yn Llundain heddiw ar ôl eu cael yn euog o ddirmyg llys.

Dywedodd Mr Ustus Keehan heddiw bod Alice Davies wedi cael ei darganfod gyda’i mam Jacqueline, 49, yn Rwsia o ganlyniad i gyhoeddusrwydd am yr achos. Mae disgwyl i’r ferch, sydd ynghanol brwydr gyfreithiol rhwng ei rhieni, ddychwelyd adref wythnos nesaf.

Daeth y newyddion wrth i daid a nain y ferch, Brian a Patricia Davies o Bentyrch, Caerdydd ymddangos gerbron y barnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain ar ôl eu cael yn euog o ddirmyg llys.

Cafodd y cwpl eu cadw yn y ddalfa ddydd Gwener ar ôl i Mr Ustus Keehan ddod i’r casgliad eu bod wedi dweud celwydd pan ofynnwyd iddyn nhw am wybodaeth ynglŷn â lle’r oedd eu hwyres. Fe alla’i cwpl fod wedi cael eu carcharu.

Roedd merch arall y cwpl, Melanie Williams, sef modryb Alice, hefyd wedi cael ei chadw yn y ddalfa ar ôl i  Mr Ustus Keehan ddweud ei bod hi hefyd wedi dweud celwydd ac yn euog o ddirmyg llys.

Dywedodd y barnwr y gallai’r tri gael eu rhyddhau yn dilyn y newyddion bod Alice wedi ei darganfod yn ddiogel.

Mae Jacqueline Davies a’i chynbartner Julian Brown, tad Alice, wedi gwahanu. Roedd barnwr wedi dyfarnu y dylai Julian Brown gael gweld ei ferch ond roedd Jacqueline Davies wedi diflannu gydag Alice.

Ar ôl y gwrandawiad heddiw dywedodd Julian Brown ei fod wrth ei fodd ac yn edrych ymlaen at weld ei ferch gan nad yw wedi ei gweld ers  bron i ddwy flynedd.

Roedd Julian Brown wedi gofyn i’r barnwr beidio â dedfrydu Brian a Patricia Davies a Melanie Williams i garchar.

Mae disgwyl i Jacqueline Davies fynd i wrandawiad yn Adran y Teulu yn yr Uchel Lys yn Birmingham ddydd Mawrth.