Mae angen i Heddlu Dyfed Powys wella ei reolaeth o bobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa, yn ôl adroddiad gan arolygwyr.

Dywed yr arolwg, a gafodd ei gynnal ar y cyd rhwng Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi (HMIP) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC), bod angen gwella’r oruchwyliaeth mewn dalfeydd, rhoi rhagor o hyfforddiant i staff a monitro’r sefyllfa yn well.

Cafodd yr arolwg ei gynnal fel rhan o raglen genedlaethol i asesu sut mae carcharorion yn cael eu trin yn y ddalfa yn ardal Heddlu Dyfed Powys. Bu’n edrych ar bump o ddalfeydd yr heddlu sy’n gweithredu 24 awr y dydd yn y Drenewydd, Aberystwyth, Llanelli, Aberhonddu a Hwlffordd, yn ogystal â dwy ddalfa wrth gefn yn Rhydaman ac Aberteifi.

Dywed yr adroddiad bod y gwendidau a’r argymhellion yn adlewyrchu’r problemau o geisio plismona ardal ddaearyddol fawr.

Pryderon

  • Dim ond tri arolygydd oedd yn goruchwylio’r dalfeydd a’u bod yn aml yn gorfod gwneud  cyfrifoldebau eraill.
  • Staff oedd heb gael hyfforddiant, neu ddim yn gyfarwydd a goruchwylio pobl yn y ddalfa yn cael eu defnyddio i lenwi bylchau os nad oedd digon o staff.
  • Angen lleihau nifer yr arosiadau hir yn y ddalfa i’r rhai oedd yn aros i fynd i’r llys a defnyddio celloedd yr heddlu ar gyfer dal pobl oedd ag anghenion iechyd meddwl.

Serch hynny mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod cyfathrebu rhwng staff a charcharorion yn dda, bod staff yn gwrtais a bod asesiadau risg yn dda.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd prif arolygydd y carchardai Nick Hardwick a Dru Sharpling o HMIC bod yr adroddiad  yn gwneud nifer fechan o argymhellion er mwyn cynorthwyo’r heddlu a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i wella’r ddarpariaeth ymhellach.