Noson o law trwm wedi achosi'r tirlithriad
Ma ffordd yr A498, rhwng Beddgelert a Pen-y-gwryd, wedi cau yn dilyn tirlithriad neithiwr.

Noson o law trwm sydd wedi achosi’r tirlithriad ac yn ôl Cyngor Gwynedd mae tua 30 tunnell o fwd wedi disgyn a gorchuddio’r ffordd.

Mae arbenigwyr ar y safle yn cynnal ymchwiliad diogelwch ac mae disgwyl i’r ffordd fod ar gau am rai oriau eto.