Carl Mills
Mae’r Llys Apêl wedi ymestyn dedfryd dyn oedd wedi cynnau tân yn nhŷ ei gariad gan ladd tair cenhedlaeth o’r un teulu yng Nghwmbrân.

Fe benderfynodd yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas, y dylai Carl Mills, 29, o Fanceinion, dreulio isafswm o 35 mlynedd yn y carchar yn hytrach na 30.

Cafodd Mills ei garcharu am oes yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu, gan gynnwys ei ferch fach.

Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17 a’i wyres 6 mis oed Kimberley yn y tân yn eu cartref yng Nghwmbrân ym mis Medi’r llynedd.

Roedd Kimberley newydd adael yr ysbyty ar ôl cael ei geni 13 wythnos yn gynnar.

Roedd Mills, oedd yn ddi-gartref ac yn gaeth i alcohol, wedi bygwth llosgi’r tŷ i’r llawr.

Bu’n gwylio’r digwyddiadau yn y Llys Apêl heddiw drwy gyswllt fideo o’r carchar. Fe fydd yn gorfod treulio 35 mlynedd dan glo cyn cael gwneud cais am barôl.