Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynllun i dorri coed yng Nghoedwig Niwbwrch er mwyn helpu planhigion ac anifeiliaid prin yr ardal.

Ar ôl cyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) neithiwr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi cymeradwyaeth i’r sylfaen wyddonol gan olygu y bydd CNC yn dechrau ar y gwaith o dynnu coed  o’r goedwig.

“Bydd hyn yn help mawr i fywyd gwyllt ac ni fydd yn amharu dim ar y wiwer goch,” meddai Deiniol Tegid, llefarydd dros CNC.

“Mae angen i dwyni tywod allu symud o gwmpas ac mae’r coed dan sylw, sydd eisoes wedi marw, yn clymu’r twyni sy’n amharu ar fywyd gwyllt.

“Mae CNC yn wedi ystyried ardal Niwbwrch yn ei gyfanrwydd cyn creu’r cynlluniau a’r gobaith yw darparu gwell amgylchiadau ar gyfer adferiad bywyd gwyllt.”

Hwb i’r ardal

Dywedodd Deiniol Tegid fod miliwn o bunnau wedi ei wario ar ddatblygu ardal Niwbwrch yn barod a bydd y gwaith o dacluso’r goedwig, tra’n gweithio gyda’r gymuned leol, yn sicrhau hwb pellach i’r economi.

Fe ddynodwyd yr ardal yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig.

Pobl Niwbwrch ‘yn fwy cadarnhaol’

Mae Ann Griffith, un o gydgynghorion Bro Aberffraw, eisioes wedi datgan nad yw hi’n teimlo fod pobol Niwbwrch wedi cael digon o lais yn yr ymgynghoriad. Ond ar ôl y cyfarfod neithiwr mae hi’n teimlo’n llawer mwy cadarnhaol ynglŷn â’r datblygiad.

“Roedd gwell teimlad na sydd wedi bod mewn cyfarfodydd yn y gorffennol. Ond dim ond amser a ddengys os yw pobol Niwbwrch am gael chwarae teg.”