Teulu Bach Nantoer
Bydd rhaglen ddogfen ar S4C yn bwrw golwg ar ffenomenon yn y byd cyhoeddi yng Nghymru.

Mae’n gan mlynedd ers i’r nofel, Teulu Bach Nantoer, gael ei chyhoeddi. Dyma un o’r nofelau mwyaf poblogaidd erioed yn yr iaith Gymraeg gyda tua 30,000 o gopïau yn cael eu gwerthu.

Nofel eiconig

Ac yn awr bydd y gyflwynwraig Beti George sy’n dod o’r un ardal â’i hawdur, Elizabeth Mary Jones, yn mynd ar drywydd hanes y nofel eiconig hon mewn rhaglen ddogfen ar S4C. Darlledir y rhaglen nos Sul, 15 Medi, am 9.30pm.

Bydd yn edrych ar hanes y nofel a’i hawdures, yn cynnwys trafodaethau ar y nofel gan academyddion ac atgofion gan rai sy’n cofio ei darllen pan oeddent yn blant. Byddwn hefyd yn clywed ymateb plant heddiw ar ôl ei darllen.

“Pan oeddwn i’n blentyn roedd Moelona yn enw cyfarwydd iawn gan fy mod i wedi cael fy magu ryw ddwy filltir o ble’r oedd hi wedi cael ei magu – hi yn Rhydlewis a minnau yng Nghoed y Bryn,” meddai Beti George am yr awdures Elizabeth Mary Jones a gyhoeddai ei nofelau o dan y ffugenw Moelona.

“Dwi’n credu bod gan Moelona ddawn i’ch tynnu chi mewn i’r stori a gwneud i chi deimlo eich bod chi’n rhan o’r teulu. Mi fyddwn ni’n clywed gan bobl sy’n cofio darllen y nofel pan oedden nhw’n blant ac mae’n amlwg bod y nofel wedi cael cryn effaith arnyn nhw ac mae rhai yn eu dagrau hyd heddiw wrth sôn amdani.”

Dweud pethau pwysig

Ar yr olwg gyntaf stori fach syml am hanes un teulu yw Teulu Bach Nantoer, ond wrth i Beti sgwrsio â nifer o academyddion gan gynnwys yr Athro Katie Gramich, yr Athro M. Wynn Thomas a’r arbenigwraig ym myd llenyddiaeth plant, Dr Siwan Rosser, daw’n amlwg bod nifer o haenau yn y nofel.

“Mae’r arbenigwyr yn esbonio bod y nofel yma yn dweud pethau pwysig wrthym ni am amodau diwylliannol y cyfnod,” meddai Beti, ac mae’n bosib felly bod yr amryw haenau yn cynnig rhywbeth gwahanol i wahanol ddarllenwyr a rhai o wahanol oedran, ac efallai mai dyna pam bod y nofel yn dal i apelio at blant ac oedolion heddiw.

“Mi fyddwn ni yn ymweld ag Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul i holi’r plant yno am eu barn am y nofel,” meddai Beti. “Roedden nhw wedi mwynhau ac yn hynod o barod i rannu eu barn. Difyr oedd yr amrywiaeth yn eu barn- doedd un bachgen ddim yn hoffi ‘pregeth’ y ficer am bwysigrwydd Gymreictod a chenedlaetholdeb tra bod merch yn yr un dosbarth wedi ei hysbrydoli gan y darn yma ac yn danbaid i wneud rhywbeth am y peth!”

Awdures annisgwyl

Ac mae’n debyg bod Moelona ei hun yn berson â llawer o haenau iddi hefyd ac wrth siarad gyda rhai o ddisgynyddion Moelona bydd Beti’n darganfod ambell i beth annisgwyl am yr awdures.

“Doedd gan Moelona ddim plant ond roedd gan Tywi, ei gŵr ddwy ferch, a’r peth cyntaf oedd Moelona eisiau gwneud efo nhw oedd eu hanfon i ysgol breswyl!”

Yn ogystal â’r rhaglen ddogfen Teulu Bach Nantoer, i ddathlu canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel bydd fersiwn ddigidol o’r nofel yn cael ei chyhoeddi gyda nawdd o Gronfa Ddigidol S4C. Bydd yr e-lyfr yn cynnwys rhagair newydd gan Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd ar gyfer darllenwyr newydd i’r nofel, yn ogystal â lluniau newydd, a bydd y testun wedi ei safoni. Bydd ar gael ar wefan www.cromen.co.uk