Chris Bryant
Mae Aelod Seneddol y Rhondda wedi corddi’r dyfroedd trwy alw am reolau newydd i roi gwell cyfle i “weithwyr Prydeinig” yn erbyn gweithwyr tramor.

Mae Chris Bryant, sy’n llefarydd Llafur ar fewnfudo, yn dweud fod cwmnïau mawr fel siopau Tesco a Next wedi gorfod cyflogi pobol o’r tu allan i wledydd Prydain, er bod cymaint yn ddi-waith yma.

Y nod, meddai, yw sicrhau na fydd gweithwyr tramor yn cael eu hecsploetio a bod pobol ifanc Brydeinig yn cael gwell cyfle i gynnig am y swyddi.

Ond, ar ôl i’w sylwadau gael sylw ym mhapur y Sunday Telegraph ddoe, fe ymosododd Tesco arno yntau gan ddweud ei fod wedi cael ei ffeithiau’n anghywir.

Gwella cyfle gweithwyr lleol

Heddiw, fe ddywedodd yr AS nad oedd yn ymosod yn benodol ar y ddau gwmni ond yn awgrymu fod gormod o swyddi’n mynd i weithwyr tramor a bod rhai cyflogwyr yn gwneud hynny’n fwriadol er mwyn arbed arian.

“Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw gweithwyr tramor yn cael eu hecsploetio mewn rhai achosion a gwneud yn siŵr bod gweithwyr lleol yn cael gwell cyfle i gael y swyddi,” meddai mewn cyfweliad radio.

Mae Chris Bryant wedi gorfod newid rhannau helaeth o’i araith heddiw ac mae mudiadau sy’n ymwneud â mewnfudwyr eisoes wedi awgrymu bod neges y Blaid Lafur yn “ddryslyd”.