Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl i iwnifform heddlu gael ei ddwyn o gar panda yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd y lladrad yn Ffordd Pwllmelin ger clwb rygbi Fairwater tua 10.30 neithiwr tra oedd y plismyn yn ymateb i ddigwyddiad yn yr ardal.
Torrwyd i mewn i’r cerbyd a chafodd bag yn cynnwys yr iwnifform ei ddwyn.
Ni chafodd unrhyw gerdyn adnabod na cherdyn warant ei ddwyn. Dywed yr heddlu y dylai unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n amheus o rywun mewn gwisg plismon ofyn am weld eu cerdyn adnabod.
Mae’r heddlu’n apelio i rywun sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.