Mae Heddlu Gorllewin Mersia wedi cyhoeddi enw’r dyn fu farw ddydd Mawrth ar ôl cael ei dynnu o afon ger Y Waun.

Aeth Anthony James Lawrence, 21 oed o Groesoswallt, i drafferthion mewn aber rhwng afonydd Dyfrdwy a Cheiriog.

Cafodd ei dynnu o’r dŵr toc wedi 7pm nos Fawrth, ond fe fu farw’n ddiweddarach yn Ysbyty Brenhinol Sir Amwythig.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’w farwolaeth, ac mae disgwyl i brofion post-mortem gael eu cynnal heddiw.

Bydd cwest yn cael ei agor a’i ohirio yn ystod y dyddiau nesaf.

Yn dilyn ei farwolaeth, mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol i beidio nofio mewn dŵr agored.