Lynette White
Mae adroddiadau i’r ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White o Gaerdydd gan Heddlu’r De yn dweud nad oedd yr heddlu wedi ymddwyn yn amhriodol.
Dywed yr adroddiad nad oes tystiolaeth i ddangos bod yr heddlu wedi dinistrio dogfennau oedd yn allweddol i’r achos llys, er bod rhai cwestiynau yn dal heb gael eu hateb.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Peter Vaughan fod y camgymeriadau a gafodd eu gwneud yn “adlewyrchu’r heriau ehangach oedd yn wynebu’r erlynwyr o’r dechrau”.
Cafodd y tri dyn a gafwyd yn euog yn dilyn yr ymchwiliad cyntaf eu rhyddhau yn dilyn apêl.
Yn dilyn ail ymchwiliad, cafwyd Jeffery Gafoor yn euog o lofruddio Lynette White.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Peter Vaughan: “Rydym yn croesawu’r adroddiadau a’u casgliadau heddiw.
“Maen nhw’n dangos yn glir sut y chwaraeodd materion datgelu mewn achos mor gymhleth a cham-drin nifer fach o ddogfennau ran yn y broses o atal yr achos yn erbyn cyn-swyddogion Heddlu’r De.”
‘Newid dulliau gweithredu’
Ychwanegodd fod Heddlu’r De wedi newid eu dulliau gweithredu yn sgil yr ymchwiliad penodol hwn.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y De, Alun Michael: “Trwy fy nghyswllt hirdymor â’r achos hwn, rwy’n credu ei fod yn benderfyniad dewr a chywir gan y Prif Gwnstabl i fynd i’r afael â gwaddol anodd yr achos hwn a’r honiadau cysylltiedig o gamweinyddu ar ran yr heddlu.
“Dydy’r adroddiadau hyn ddim yn tanseilio hynny.
“Yn wir, mae’r ddau adroddiad yn cydnabod ymrwymiad cyson Heddlu De Cymru i’r ymchwiliad.”