Nod cynhadledd fawr yn Aberystwyth yw ffeindio ffyrdd newydd o gryfhau’r iaith, meddai Prif Weinidog Cymru.

Yn ôl Carwyn Jones, y bwriad yw cynyddi nifer y bobol sy’n siarad Cymraeg, cael pobol i ddefnyddio’r iaith a sicrhau bod gan bobol yr hyder i’w defnyddio hi.

Mae mwy na 150 o gynrychiolwyr wedi casglu yn y Brifysgol i drafod syniadau, gan barhau gyda thrafodaethau sydd wedi dechrau mewn cyfarfodydd lleol ac ar-lein.

Yn ei neges ar ddechrau’r gynhadledd, roedd Carwyn Jones yn pwysleisio mai dechrau proses oedd hon “er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg”.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi protestio am nad yw’r gynhadledd yn agored i’r cyhoedd.