Sied Alex Holland ym Mynyddoedd y Cambrian
Mae sied bren o Gymru sydd â chwch rhwyfo fel to wedi ennill cystadleuaeth ‘Sied y Flwyddyn’ gan guro 1,900 o ymgeiswyr eraill.

Mae’r sied, sydd wedi ei wneud  o ddeunydd wedi ei ailgylchu, wedi ei leoli ym Mynyddoedd y Cambrian ger Machynlleth ac yn llawn nodweddion unigryw.

Dywedodd perchennog y sied, Alex Holland ei fod yn falch iawn o dderbyn gwobr o £1,000 am ei waith.

Meddai: “Rwy’n hynod o falch fy mod wedi ennill ‘Sied y Flwyddyn 2013’. Gyda’r arian rwy’n bwriadu prynu tyrbin gwynt ail-law fel fy mod y gallu cynhyrchu digon o drydan i wneud rhew – i gadw diodydd yn oer yn yr oergell.”

Mae’r sied yn cynnwys llosgwr coed, system gerddoriaeth a phopty nwy ynghyd â golau sydd wedi ei bweru gan baneli solar.

Roedd sied Alex Holland wedi plesio’r beirniaid a oedd yn cynnwys y gyflwynwraig Sarah Beeny, y dylunydd a’r awdur Kevin McCloud a sylfaenydd y gystadleuaeth, Uncle Wilco.

Ymysg yr ymgeiswyr eraill roedd gardd do gyda blodau gwyllt a sied ddiwydiannol.