Anthony O'Sullivan
Mae dau o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas ag ymchwiliad i godiadau cyflog swyddogion Cyngor Caerffili.
Cafodd y ddau eu harestio gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ar amheuaeth o dwyll a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Cafodd prif weithredwr y Cyngor, Anthony O’Sullivan ei wahardd ym mis Mawrth yn dilyn sgandal am godiadau cyflog anghyfreithlon.
Aeth cannoedd o weithwyr y Cyngor ar streic yn dilyn y newyddion.
Ym mis Mawrth, cafodd y Cynghorydd Llafur Harry Andrews ei feirniadu ar ôl i’r prif weithredwr, Anthony O’Sullivan dderbyn codiad cyflog gwerth £25,400.
Cafodd Anthony O’Sullivan ei wahardd o’i waith dros dro ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ddweud bod y modd y cafodd y codiad cyflog ei wneud yn anghyfreithlon.
Penderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) bod Cyngor Sir Caerffili wedi rhoi codiadau cyflog annheg i nifer o’i brif swyddogion.
Dywedon nhw nad oedd y Cyngor wedi dilyn prosesau cywir ac wedi ymddwyn mewn modd amhriodol wrth roi codiadau cyflog o 30%.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Hysbyswyd y cyngor y bore ‘ma gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod dau o uwch swyddogion y cyngor wedi eu harestio ac yn cael eu holi. Rydym wedi cael ein cynghori gan yr heddlu y byddai’n annoeth gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd ond rydym yn parhau i gydweithredu gyda’r ymchwiliad.”