Jack Widdowson yn perfformio
Mae dyn wedi cael ei garcharu am 13 mlynedd am ymosod ar ddawnsiwr bale a thorri ei wddf.
Roedd Mohammed Ali Mohamoed, 27, wedi ymosod ar Jack Widdowson, 19, o Wlad yr Haf wrth iddo gerdded yng Nghaerdydd ar ôl bod allan gyda ffrindiau.
Cafwyd Mohamoed, o Sblot yng Nghaerdydd, yn euog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol ond yn ddieuog o geisio llofruddio.
Cafodd ffon symudol Jack Widdowson ei ddwyn yn yr ymosodiad ger Stryd East Tyndall yng Nghaerdydd am 12.45yb ym mis Tachwedd 2011.
Roedd y dawnsiwr wedi bod yn ymweld â’i frawd oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd,
Yn Llys y Goron Caerdydd roedd Mohamoed wedi cyfaddef iddo ddwyn y ffôn, ond roedd yn honni mai rhywun arall oedd yn gyfrifol am anafu Jack Widdowson.
Roedd ’na bryderon ei fod wedi cael ei barlysu yn yr ymosodiad ond roedd Jack Widdowson, sy’n ddawnsiwr gyda Chwmni Bale Bern yn y Swistir, wedi llwyddo i ddawnsio eto wyth mis ar ôl yr ymosodiad.
Wrth ei ddedfrydu i 13 mlynedd yn y carchar, dywedodd y Barnwr Ustus Wyn Williams bod Mohamoed yn “droseddwr peryglus” ac wedi rhoi gorchymyn iddo gael ei estraddodi yn ôl i’r Aifft ar ôl cyflawni ei ddedfryd.