Mae cwmni Dŵr Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus wrth iddyn nhw fynd ati i fuddsoddi £2 biliwn mewn gwasanaethau.

Eu bwriad yw gwella gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth rhwng 2015 a 2021, ac maen nhw’n rhoi’r cyfle i gwsmeriaid ddweud eu dweud am y cynlluniau trwy’r ymgynghoriad ‘Eich Cwmni, Eich Barn’.

Mae disgwyl iddyn nhw holi mwy na thair miliwn o bobol o Gymru, Swydd Henffordd a Glannau Dyfrdwy yn ystod yr ymgynghoriad.

Byddan nhw’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau trwy gydol yr haf, gyda’r bwriad o ddarganfod ffyrdd o gadw biliau’n isel.

Dywed y cwmni bod eu model ‘nid-er-elw’ yn sicrhau y gallan nhw ymrwymo i’r buddsoddiad mwyaf erioed.

Bydd Dŵr Cymru’n cyflwyno’u cynlluniau i Ofwat ym mis Rhagfyr eleni.

Y cynlluniau

Mae’r cynlluniau’n cynnwys adnewyddu 400km o brif bibellau dŵr newydd yn Swydd Henffordd, Caerdydd a Chasnewydd, gwella systemau trin dŵr gyda’r pwyslais ar ardaloedd Llandudno, Bae Colwyn a’r Rhondda.

Bydd piblinell newydd yn cael ei adeiladu rhwng y de-orllewin a’r de-ddwyrain er mwyn mynd i’r afael â phrinder dŵr yn ystod cyfnodau o sychder difrifol.

Mae’r cwmni hefyd yn gobeithio cynyddu faint o ynni adnewyddadwy mae’n ei gynhyrchu i 100GWh er mwyn lleihau faint o drydan y bydd angen i gwsmeriaid ei brynu.

Hefyd fel rhan o’r cynlluniau, fe fydd buddsoddiad yng ngwaith ynni gwyrdd newydd Wrecsam er mwyn troi ‘slwtsh’ yn drydan, a lleihau allyriadau carbon a chostau ynni ar yr un pryd.

Bydd y cynlluniau hefyd yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd mewn dros 200 o eiddo, ac yn ychwanegu at GlawLif, sy’n ceisio lleihau’r perygl o garthffosydd yn gorlifo.

Mae modd gweld y cynlluniau ar-lein, www.dwrcymru.com.