April Jones
Mae’r  rheithgor yn achos Mark Bridger, sydd wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones, yn clywed rhagor o’i  gyfweliadau gyda’r heddlu yn y dyddiau ar ôl i’r ferch 5 oed ddiflannu.

Fe fydd y rheithgor hefyd yn clywed gan arbenigwyr ynglŷn ag olion o esgyrn plentyn a ddarganfuwyd yng nghartref Bridger yng Ngheinws, ger Machynlleth.

Mae Bridger, 47 oed, yn gwadu cipio a llofruddio April Jones. Mae’n honni ei fod wedi ei tharo’n ddamweiniol gyda’i gar Land Rover ond nad yw’n cofio beth wnaeth gyda’i chorff.

Mae’r erlyniad yn honni bod cymhelliad  rhywiol i’w ymosodiad ar April.

Ddydd Gwener, bu Llys y Goron yr Wyddgrug yn clywed cyfweliadau Bridger gyda’r heddlu yng Ngorsaf yr Heddlu yn Aberystwyth yn y dyddiau’n dilyn diflaniad April ar 1 Hydref.

Clywodd y llys ei fod wedi honni iddo ei tharo gyda’i gar ond nad oedd wedi meddwl ffonio 999.

Ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio dywedodd: “Nes i ddim llofruddio’r ferch fach, nes i ddim ei llofruddio hi. Damwain oedd o.”

Mae’r achos yn parhau.