Mae nifer y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 6,000 i 121,000 yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Ond bu cynnydd o 15,000 i 2.52 miliwn yn nifer y di-waith yn y DU yn y chwarter olaf hyd at fis Mawrth. Dyma’r trydydd cynnydd yn olynol yn nifer y bobl sydd allan o waith.
Mae nifer y rhai sydd mewn swydd wedi gostwng 43,000 yn y chwarter olaf i 29.7 miliwn, y gostyngiad mwyaf ers yr hydref 2011.
Mae’r ffigurau heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn datgelu bod twf mewn cyflogau blynyddol yn ystod y cyfnod yn 0.4%, gostyngiad o 0.4% ers y chwarter blaenorol, ac ymhell y tu ôl i raddfa chwyddiant.
Roedd 902,000 o bobl wedi bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn, yn ôl y ffigurau, sef cynnydd o 23,000 ers y tri mis hyd at fis Rhagfyr.
Mae nifer y bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sy’n ddi-waith wedi gostwng 17,000 i 958,000.
Er gwaetha’r cynnydd yn nifer y di-waith heddiw, mae’r cyfanswm 92,000 yn llai na blwyddyn yn ôl.
‘Nid dyma’r amser i laesu dwylo’
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi dweud nad dyma’r amser i laesu dwylo.
Dywedodd David Jones: “Mae’r ffigurau yma’n dda iawn i Gymru. Maen nhw’n dangos bod arwyddion clir o dwf yng Nghymru. Ond bydden ni’n ffôl i awgrymu bod y gwaith caled drosodd.
“Rwy’n gwybod o siarad â busnesau ledled Cymru eu bod yn fwyfwy optimistaidd am y dyfodol ac rwy’n credu bod hyn yn cael ei ddangos yn y cynnydd o 16,000 o bobl sydd mewn swydd.
“Yr wyf yn hyderus bod mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, fel y mesur Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, o fudd pellach i gwmnïau o Gymru drwy greu hinsawdd economaidd fwy ffafriol iddyn nhw wneud busnes.”
Ceidwadwyr
Dywedodd Nick Ramsay AC, llefarydd busnes y Ceidwadwyr yng Nghymru:
“Mae’r ffigurau yma sy’n dangos gostyngiad mewn diweithdra, cyflogaeth gynyddol a gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd yn newyddion croesawgar i economi Cymru, er nad oes lle i laesu dwylo.
“Mae economi Cymru yn parhau i fod yn fregus ac yn dal i danberfformio o gymharu â rhannau eraill o’r DU. Mae Cymru yn parhau i gael ei raddio fel y rhan dlotaf o’r DU ac mae nifer y bobl sydd ar fudd-daliadau yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU fel y mae wedi bod ym mhob blwyddyn o Lywodraeth Lafur Cymru.
“Mae’n rhaid i Weinidogion Llafur Cymru ddefnyddio’r holl adnoddau sydd yn eu rheolaeth i feithrin adferiad economaidd a chreu’r amodau lle gall busnesau ffynnu, ehangu a chreu swyddi newydd.”
Democratiaid Rhyddfrydol
Dywedodd Eluned Parrot AC, llefarydd yr economi ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: “Hoffwn longyfarch y llywodraeth ar greu dros 6,000 o gyfleoedd gwaith a llenwi dwy ran o dair ohonynt. Mae hynny ar ei ben ei hun yn dasg sylweddol ac yn haeddu clod.
“Fodd bynnag, dylai llwyddiant cynllun creu swyddi gael ei farnu, nid yn unig ar y cyfleoedd a grëir, ond yn bwysicach ar faint o bobl sy’n cymryd rhan ac yna mynd ymlaen i ddod o hyd i gyflogaeth barhaol o ganlyniad.
“Mae’r ffigurau yr wyf wedi eu cael yn dangos mai dim ond dwy ran o dair o’r lleoliadau a grëwyd sydd wedi cael eu llenwi mewn gwirionedd, a dim ond dwy ran o dair o’r rheini wedyn sy’n cael eu cwblhau.
“Ar y sail honno, dyw’r gyfradd llwyddiant yn ddim ond 44% ar gyfer y broses gyfan, yn hytrach na’r 79% o gyfradd llwyddiant mae’r Dirprwy Weinidog wedi hawlio heddiw.
“Rwyf hefyd yn pryderu am yr amrywiaeth rhanbarthol yn nifer y swyddi a grëwyd a nifer y swyddi a lenwir. Mae canran o swyddi sy’n cael eu llenwi yn amrywio o 50% yn Abertawe i 80% ym Merthyr – yn amlwg mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl ifanc ar draws Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael swydd, waeth ble maent yn byw. ”
Plaid Cymru
Dywedodd llefarydd economi ar ran Plaid Cymru Alun Ffred Jones:
“Tra bo ffigyrau heddiw yn dangos cwymp yn nifer y bobl sy’n ddiwaith yng Nghymru, mae’n bwysig cofio fod diweithdra yn dal yn uwch o lawer ynh Nghymru na chyfartaledd y DG, sef 8.2%. Mae 50,000 o bobl yn fwy yn ddiwaith yng Nghymru nag oedd cyn y dirwasgiad, ac yr ydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu o ddifrif i fynd i’r afael a’r broblem hon.”