Mae Aelod Cynulliad wedi dweud ei bod hi’n anffodus fod y Cynulliad yn “dilyn trywydd San Steffanaidd” o gynnal sesiwn deyrnged i Margaret Thatcher.

Mae Simon Thomas yn un o ddau AC Plaid Cymru sydd wedi cadarnhau na fydd yn bresennol yn y sesiwn heddiw am 1.30, toc cyn cwestiynau’r Prif Weinidog. Y llall yw Dafydd Elis-Thomas a ddywedodd y byddai’n “rhagrithiol” ohono i fod yn bresennol o ystyried ei wrthwynebiad i’w pholisïau hi.

Bydd arweinwyr y pedair plaid yn talu teyrnged i’r Farwnes Thatcher yn y sesiwn yn y Senedd, ddiwrnod cyn ei hangladd hi yfory.

‘Wedi gadael gwaddol anodd’

Wrth gyfeirio at y sesiwn dywedodd Simon Thomas, sy’n cynrychioli canolbarth a gorllewin Cymru: “Dwi ddim yn teimlo y byddwn i’n cael dweud fy nweud am etifeddiaeth Thatcher a’i heffaith hi ar wleidyddiaeth a chymdeithas yng Nghymru.”

Dywedodd fod angen i’r Cynulliad “ganfod dull mwy addas o gydnabod mai hi oedd Prif Weinidog benywaidd cyntaf y Deyrnas Gyfunol, ond hefyd ei bod hi wedi gadael gwaddol anodd i’r Cynulliad wrth inni geisio ail-adeiladu cenedl.”

Mae hefyd wedi cyhuddo’r blaid Geidwadol a sefydliadau’r wladwriaeth Brydeinig o“ddefnyddio” marwolaeth Thatcher er mwyn ei phortreadu hi fel ffigwr sy’n uno Prydain yn hytrach nag un sy’n rhannu barn.

Priodol

Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, wedi dweud fod Margaret Thatcher yn “ffigwr allweddol yn hanes Prydain ac nid oes amheuaeth iddi ddylanwadu’n sylweddol ar ein bywydau ni oll.”

“Mae’n briodol bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi marwolaeth ffigwr a fu mor ddylanwadol ar fywyd Prydain.”