Mae gweithwyr y Swyddfa Bost ar streic heddiw mewn anghydfod ynghylch swyddi tâl a chau swyddfeydd post.

Dywed yr Undeb Gweithwyr Cyfathebu (CWU) fod  miloedd o’i aelodau’n cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol mewn tua 370 o brif swyddfeydd post ledled Prydain.

Prif asgwrn y gynnen yw cynlluniau i gau neu breifateiddio 70 o’r canghennau hyn sy’n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan y Swyddfa Bost, a dywed yr undeb bod eu safiad yn cael cefnogaeth gref gan y cyhoedd.

Mae wyth o’r canghennau hyn – ‘Canghennau’r Goron’- yng Nghymru, lle mae’r Swyddfa’r Bost yn chwilio am bartneriaid i’w rhedeg: Caergybi, Llangefni, Rhyl, Treffynnon, Caerfyrddin, Treforys, Castell Nedd a Port Talbot.

Os bydd y cynlluniau’n mynd ymlaen, byddai Sir Fôn heb yr un prif gangen, ac fe fu cannoedd yn protestio yn erbyn cau swyddfa bost Caerfyrddin y mis diwethaf.

“Byddai cynlluniau’r Swyddfa Bost yn amddifadu’r rhwydwaith o’r swyddfeydd mwyaf cynhyrchiol ac yn bygwth cannoedd o swyddi a difrodi economïau lleol,” meddai Dave Ward, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol y CWU.

“Fe hoffen ni weld gweledigaeth well am rwydwaith llwyddiannus sy’n cynnal gwasanaethau yng nghanol cymunedau a swyddi o safon. Rydyn ni’n hyderus y gellid sicrhau hyn petai rheolwyr y Swyddfa Bost yn fodlon trafod.”

Dywed y Swyddfa Bost eu bod nhw’n gresymu at unrhyw anhwylustod y mae’r streic yn ei achosi i gwsmeriaid, ond bod 100 o’u prif swyddfeydd, a’r cyfan o’r 11,800 o’r is-ganghennau llai, wedi aros yn agored heddiw.