Mae gweithwyr cwmni bwyd Welsh Country Foods ar Ynys Môn yn bwriadu cynnal streic.
Dywed dros 300 o weithwyr eu bod nhw’n anhapus gydag amodau taliadau diswyddo, o’u cymharu â’r un taliadau sy’n cael eu rhoi i weithwyr yn Yr Alban.
Cafodd safle cwmni Vion, sy’n berchen ar Welsh Country Foods, yn Llangefni ei brynu fis diwethaf gan gwmni bwyd o Birmingham.
Cafodd hyd at 1,600 o swyddi eu cynnal yng Nghymru yn dilyn y cytundeb.
Ond mae ansicrwydd o hyd am swyddi yn Y Gaerwen, ac mae disgwyl i’r safle gau ym mis Ebrill os na ddaw prynwr newydd i’r adwy.
Fydd rhai o’r gweithwyr ddim yn derbyn taliadau diswyddo gan nad ydyn nhw wedi bod yn gweithio i’r cwmni am fwy na dwy flynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Vion: “Mae Vion yn siomedig gyda’r penderfyniad i weithredu’n ddiwydiannol mewn cyfnod gwerthiant allweddol ar gyfer cig oen Cymreig.
“Ar hyn o bryd, mae’r busnes yn paratoi cynlluniau i reoli cyflenwadau i gwsmeriaid yn y cyfnod hwn.
“Mae Vion yn parhau i ddatblygu’r trafodaethau gyda nifer o bobol sydd wedi dangos diddordeb yn ngweithrediad Welsh Country Foods.”
Dywedodd y cwmni na fydden nhw’n gwneud sylw pellach tan ar ôl i’r streic ddod i ben.