Bydd glanhawyr trenau Arriva yn streicio ar ddiwrnod y gêm rygbi fawr rhwng Cymru a Lloegr, mewn ffrae dros gyflogau.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd glanhawyr yn streicio am 24 awr ar 16 Mawrth, y diwrnod pan fydd Cymru a Lloegr yn chwarae yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd.

Mae’r gêm yn siŵr o ddenu torf enfawr i’r brifddinas, i weld os all Cymru rhwystro camp lawn i’r Saeson, ac mae nifer ohonynt yn debyg o deithio ar drenau.

Yr Undeb Trafnidiaeth Rheilffyrdd a Morwrol sy’n cynnal y streic, fel rhan o ymgyrch i fynnu codiad cyflog i weithwyr dros y wlad.

Roedd glanhawyr eisoes wedi pleidleisio o 9-1 mewn cefnogaeth o’r streic.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Bob Crow:

“Mae gan y frwydr hefo Trenau Arriva Cymru arwyddocâd cenedlaethol yn yr ymgyrch yn erbyn cyflog isel ac ymelwad gan gwmnïau barus, a bydd yr Undeb yn parhau i bwyso am degwch i’r grŵp pwysig yma o weithwyr trafnidiaeth Cymru.

“Wedi diffyg cynnig o godiad cyflog gan y cwmni, mae ein haelodau wedi eu gorfodi i frwydro yn ôl er mwyn dileu cyflogau isel, a byddwn yn streicio ddydd Sadwrn nesaf.”