Mae Bae Abertawe yn un o 11 o ddinasoedd ac ardaloedd ym Mhrydain sydd yn cystadlu i ennill teitl Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2017.

Dyma’r unig gais o Gymru ar gyfer y gystadleuaeth, a bydd yn cynnwys dinas Abertawe, Castell-Nedd a Phort Talbot, a rhannau o Sir Gaerfyrddin.

Mae ceisiau eraill wedi dod o Aberdeen, Caer, Caerlŷr, Dundee, Hastings, Hull, Plymouth, Southend on Sea a cais ar y cyd gan Portsmouth a Southampton. Mae cais hefyd gan ardal Dwyrain Caint.

Uno cymunedau

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Ed Vaizey, bod y ffaith bod ceisiau wedi dod o bob ardal o wledydd Prydain yn dangos bod gwir diddordeb yn y teitl.

“Mae’r gystadleuaeth yn uno cymunedau ac yn creu elw economaidd a chymdeithasol, felly rydw i’n falch o weld gymaint o awdurdodau lleol a phartneriaid gwahanol yn dod at eu gilydd.”

Bydd rhaid cyflwyno eu ceisiau erbyn diwedd mis Ebrill, pan fydd panel o feirniaid yn penderfynu ar rhestr-fer erbyn mis Mehefin.

Cadeirydd y panel beirniaid yw’r cynhyrchwr deledu, Phil Redmond:

“Rydw i’n edrych ymlaen at dderbyn ceisiau uchelgeisiol a deinamig sy’n pwysleisio’r gorau o dalent diwylliannol lleol, gan apelio at gynulleidfa mor eang â phosib.”