Bydd rali yn cael ei chynnal ledled y wlad heddiw (dydd Sadwrn, Medi 19) i amddiffyn safonau ffermio a bwyd.
Mae disgwyl protest ger Pont Menai ac mae rali dractor wedi ei threfnu yng Nghrymych, Llanfair-ym-Muallt a’r Bont-faen.
Daw’r ralïau cyn dadl dyngedfennol ar gytundebau masnach, a chyn i’r Mesur Amaethyddol gael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Mawrth (Medi 22).
Bydd Tŷ’r Arglwyddi yn trafod gwelliant a fyddai’n atal bargeinion masnach yn y dyfodol rhag caniatáu mewnforion bwyd sy’n cael eu cynhyrchu i safonau islaw gofynion y Deyrnas Unedig.
“Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi trychineb o’r fath,” meddai Robat Idris, ymgyrchydd Unite a milfeddyg yn Ynys Môn.
“Fel arall, bydd ein tirwedd, ein bwyd, ein cymunedau a’r iaith i gyd yn cael eu heffeithio.”
‘Rhan hanfodol o hunaniaeth Cymru’
“Mae ffermydd bach yn rhan hanfodol o hunaniaeth Cymru,” meddai Siwan Clarke, trefnydd y rali.
“Mae mwyafrif yr ardaloedd ble mae’r Gymraeg yn dal i fod yn iaith bob dydd yn gymunedau gwledig, amaethyddol.
“Mae’r pryder a achosir gan gambl y llywodraeth hon gyda chytundeb ‘No Deal’ yn aruthrol.
“Mae’n amhosib i ffermwyr gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf pan mae allforion mor ansicr.
“Os bydd hyn yn parhau a bod y llywodraeth yn dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, bydd cannoedd o ŵyn na allant eu gwerthu ar ôl.”