Arian - 88% o bobol ifanc yn disgwyl bod mewn dyled
Mae pobol ifanc yn eu harddegau yn disgwyl ennill dwywaith y cyflog cyfartalog ar gyfer gwledydd Prydain erbyn y maen nhw’n 35 mlwydd oed. Ond dim ond 5% o’u rhieni sy’n rhannu’r un brwdfrydedd, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae pobol ifanc rhwng 12 ac 19 oed yn credu y byddan nhw’n ennill rhywbeth yn debyg i £56,000 erbyn canol eu 30au. Mae hynny dros ddwyraith y cyflog o £24,316 sy’n arferol i bobol o’r oed hwnnw.

Ar y llaw arall, mae’r rhan fwya’ o rieni yn credu y bydd y bobol ifanc hyn yn ennill tua £25,000 erbyn y byddan nhw’n 35 mlwydd oed. Ac mae dros hanner y rhieni – 59% yn credu y bydd eu plant yn dlotach na nhw yn y dyfodol.

Hyder yn Lloegr

Mae’r bobol ifanc fwya’ optimistaidd yn Lloegr, lle’r oedd y rheiny gafodd eu holi ar gyfer adroddiad Banc Brenhinol yr Alban yn dweud eu bod nhw’n disgwyl cyflog o £57,200 pan maen nhw’n 35 oed.

Dim ond £39,600 oedd pobol ifanc Gogledd Iwerddon yn disgwyl ei gael, o gymharu â £46,600 yng  Nghymru a £53,500 yn yr Alban.

Dyledion

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod pobol ifanc yn ymwybodol iawn o faint yn union o arian sydd ganddyn nhw. Mae 90% o’r rheiny a holwyd yn cadw cofnod manwl, a 37% wrthi’n cynilo ar gyfer y dyfodol.

Ond maen nhw hefyd yn fwy ymwybodol o ddyled nac y mae eu rhieni. Dim ond 12% oedd yn disgwyl bod heb ddyled o gwbwl erbyn y byddan nhw’n 25 mlwydd oed, o gymharu â 24% in the 2007. Roedd un o bob tri o’r bobol ifanc o Loegr yn disgwyl bod â dyled o £30,000 pan maen nhw’n graddio o’r brifysgol.