arian
Mae’n rhaid i gadwyn siopau ffasiwn All-Saints ddod i gytundeb ariannol gyda phrynwyr posib cyn nos Fawrth, neu wynebu cael eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae grwp Lloyds Banking, sydd wedi rhoi benthyg arian i’r grwp, wrthi’n trafod gyda All-Saints ynglyn â phwy allai brynu’r cyfranddaliadau o eiddo Kaupthing a Glitnir, y banciau o Wlad yr Iâ.

Mae Lloyds wedi rhoi benthyg £28.5m i’r grwp, ond mae wedi rhybuddio fod y cyfrifwyr KPMG hefyd wrth law i ddod i sortio’r sefyllfa pe bai All-Saints yn cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr fore Mercher.

Mae All-Saints yn cyflogi tua 2,000 o staff, ac mae’n rhedeg 63 siop a 47 o unedau yng ngwledydd Prydain, Ewrop, yr Unol Daleithiau a Rwsia. Maen nhw wedi gwneud pwynt gwerthu o addurno eu siopau â hen beiriannau gwnïo Singer.

Mae yna sôn mai consortiwm o’r Unol Daleithiau, dan arweiniad Goode Partners, yw’r prynwr tebygol ar gyfer siâr y banciau o Wlad yr Iâ.