Bydd trigolion tref Aberteifi a’r cyffiniau yn ymgymryd â marathon o fath gwahanol yr wythnos nesaf – eu bwriad yw darllen y Beibl “o glawr i glawr” yn ddi-stop.

Mae’r ‘Beiblathon’ yn rhan o’r ymgyrch codi arian lleol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn dod i Geredigion y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Rhidian Evans, is-gadeirydd Cronfa Leol Aberteifi a’r Cylch, cafodd digwyddiad tebyg ei gynnal yn 2009 ar drothwy ymweliad Eisteddfod yr Urdd â’r sir.

Bryd hynny, fe godwyd hyd at £6,500 dros gyfnod o 84 awr, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio codi “cymaint o arian ag sy’n bosib” eleni.

“Mae rhyw £27,000 o darged gyda ni fel tref a’r pentrefi cyfagos, felly mae hwn, gobeithio, yn mynd i roi rhyw hwb bach eithaf neis i ni,” meddai Rhidian Evans, sy’n talu teyrnged i Jean Jones, gwraig y diweddar Archdderwydd, Dic Jones, am ysgogi’r syniad.

“Y ffordd mae e’n gweithio yw bod pob un yn noddi am chwarter awr, ac yna’n darllen am chwarter awr.

“Mae’n £10 am chwarter awr, felly fe ddylwn ni godi £40 yr awr wrth ei wneud e.”

“O Genesis i’r Datguddiad”

Bydd y ‘Beiblathon’ yn cael ei gynnal yng nghapel y Tabernacl yn nhref Aberteifi, gan ddechrau am chwech nos Sul (Medi 8).

Does dim sicrwydd ynglŷn â phryd fydd y darllen yn dod i ben, meddai Rhidian Evans, ond y gobaith yw cyrraedd y terfyn erbyn naill ai nos Fercher neu fore Iau.

Dyma glip sain o Rhidian Evans yn sôn rhagor am y digwyddiad…