Cwmni Portmeirion yw perchnogion newydd siop Kerfoots ym Mhorthmadog a gaeodd fis Awst a mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Caeodd y siop yn Stryd Fawr y dref ar ôl 144 o flynyddoedd.
Cafodd yr adeilad ei brynu am £325,000 mewn arwerthiant ym Manceinion ddydd Iau.
Dywed cyfarwyddwyr Portmeirion y bydd y siop yn ailagor yn y gwanwyn ac y bydd “nifer o gyfleoedd am swyddi.”
Roedd 22 o bobl yn cael eu cyflogi yn Kerfoots cyn iddi gau.
Dywedodd cyfarwyddwyr Siopau Portmeirion bod hi’n “bleser mawr” i gyhoeddi eu bod wedi prynu Kerfoots.
“Y bwriad fydd ei hagor dan enw Portmeirion yng ngwanwyn 2019 gan weithredu fel siop ar y llawr gwaelod a chaffi ar y llawr cyntaf,” meddai’r cyfarwyddwr mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe agorwyd Kerfoots yn 1874 fel siop yn gwerthu nwyddau haearn.