Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati i wella’r rhwydwaith pwyntiau gwefru ledled y wlad, ac mae rhaid iddyn nhw “yrru’r newid”.
Dyna farn, Rhun ap Iorwerth, a fu’n areithio ar y mater yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberteifi ddoe (ddydd Gwener, Medi 10).
Mae’r Aelod Cynulliad yn dweud bod rhaid iddo yrru ei gar trydanol trwy Loegr pan mae’n teithio rhwng gogledd a de Cymru, a diffyg pwyntiau pŵer sy’n gyfrifol am hynny, meddai.
Mae’n cydnabod bod y newid yn mynd i “ddigwydd yn anochel o fewn rhyw ddau ddegawd”, ond yn dadlau mai “lol” yw’r ddadl na ddylai bod Llywodraeth Cymru yn ei annog.
“Dydy Llywodraeth Cymru ddim fel petai bod nhw wedi ystyried yr angen o ddifri, i aros ar y blaen i arferion pobol, ac i yrru newidiadau mewn arferion pobol,” meddai wrth golwg360.
“Mae isio i ni weld Llywodraeth sy’n bod yn rhagweithiol, a’n edrych ar bob cyfle i wthio’r fath yma o newid … Be rydan ni isio ydy aros ar y blaen a dangos bod Cymru’n wlad blaengar yn y maes yma.”
Wrth fanylu ymhellach, mae Rhun ap Iorwerth yn tynnu sylw at wledydd, gan gynnwys yr Alban a Norwy, sydd wedi bod yn annog y fath newid.
Targedau
Mae Plaid Cymru wedi gosod targed i gael gwared ar geir disel erbyn 2030, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gosod 2040 yn darged.
Does gan Lywodraeth Cymru ddim targed, meddai Rhun ap Iorwerth, cyn bwrw ati i wadu bod targed ei blaid yn rhy uchelgeisiol.
“Beth sydd angen ydy gosod targedau mwy uchelgeisiol, fel ein bod ni’n medru dweud: ‘Dyma ydy beth ydan ni’n anelu amdano fo’,” meddai.
“Mae’n digwydd mewn gwledydd eraill. Bydd 2020 neu 2030 ddim yn hawdd ond mae o’n bosib.”
Ymateb
“Ar hyn o bryd mae 500 o fannau gwefru yng Nghymru y mae modd i’r cyhoedd eu defnyddio,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Cynyddodd nifer y ceir trydan a’r ceir hybrid a gofrestrwyd yng Nghymru 35% yn 2017.
“Rydym eisoes yn buddsoddi £2 filiwn mewn mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan er mwyn ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol. Ein nod yw canolbwyntio ar ddefnyddwyr y rhwydwaith ffyrdd strategol, gan gynnwys y llwybrau rhwng y De a’r Gogledd.
“… Mae’r camau rydym yn eu cymryd yn tystio’n glir i ymrwymiad Llywodraeth Cymru o safbwynt lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, a hefyd leihau ein hallyriadau o nwyon tŷ gwydr a gwella ansawdd yr aer.”