Dylan Iorwerth sy’n edrych ar wobrau Llyfr y Flwyddyn…

Hyd y gwyddon ni, yr awduron iawn a enillodd wobrau Llyfr y Flwyddyn neithiwr. Wiliam Owen Roberts yn Gymraeg a Deborah Kay Davies yn Saesneg.

Pawb yn hapus – heblaw’r rhai a gollodd, siwr o fod. A phawb wedi cael llond bol, yn ystyr orau’r term.

Mewn cinio moethus a drud y bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno – dynwarediad arall o’r byd llenyddol Saesneg.

Seremoni Fawreddog oedd disgrifiad y trefnwyr – yr Academi – o’r noson. Mawreddog … yr union air anghywir. Roedd tocynnau i’r sbloet yng Ngwesty Dewi Sant Caerdydd yn £45 yr un ond, chwarae teg, roedd hynna’n cynnwys gwydriad o siampên.

Y ddadl bob tro ydi fod angen digwyddiad mawr i ddenu sylw ac i roi statws. Yn naturiol wedyn, mae’n rhaid ei gynnal yng Nghaerdydd.

Pam na fedrwn ni wneud pethau’n wahanol? Pam na fedrwn ni gael digwyddiad sy’n dathlu llyfrau yn hytrach na llenwi bol? Ac un sy’n perthyn yn nes i fyd cartrefol llenyddiaeth Gymraeg?

Mi fyddai Gwesty’r Emlyn Tanygroes yn nes ati.